top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577525
 
Title

Text
Mynediad i Wybodaeth
start content

Hawlfraint a Gwadiadau

Hawlfraint Porth Eirias

Mae Porth Eirias yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfamserol.  Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd dibynnu ar ddeunydd anghywir a geir ar y wefan hon. Rhoddir cysylltiadau â gwefannau eraill er hwylustod i chi ac nid yw hyn yn golygu bod Porth Eirias yn eu cymeradwyo.  Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a geir ar wefannau eraill.

Digwyddiadau - Beth sy'n digwydd yn Porth Eirias ac o amgylch

Mae'r digwyddiadau sy'n cael eu rhestru yn yr adran hon o'r wefan yn cynnwys y rheiny sy'n cael eu trefnu gan Porth Eirias yn ogystal â'r rheiny sy'n cael eu trefnu gan gyrff eraill.  Mae rhai o'r cyrff hyn yn sefydliadau masnachol. Nid yw'r ffaith bod digwyddiad yn cael ei restru ar y safle hwn yn nodi, nac yn awgrymu bod y Porth Eirias yn cymeradwyo'r digwyddiad, y trefnwyr na'u barn.  Nid ydym yn gwarantu cyhoeddi manylion am bob digwyddiad ac rydym yn cadw'r hawl i dynnu manylion oddi ar y rhestr.  Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am y digwyddiadau rydym ni'n eu cyhoeddi ar ein safle sydd ddim yn cael eu trefnu gan Porth Eirias. Dylid cysylltu efo'r trefnwyr yn uniongyrchol os oes gennych ymholiadau pellach.

Hawlfraint 

Porth Eirias sy'n dal yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (gan gynnwys y testun a'r delweddau), oni nodir fel arall.

Gwadiad E-bost

Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw ymgysylltiadau yn gyfrinachol, ac wedi eu bwriadu ar gyfer yr un sy'n cael ei h/enwi yn unig. Gallent gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw'r neges hon wedi eich cyrraedd ar gam, ni ddylech ei chopio, ei rhannu na dangos ei chynnwys i unrhyw un. Cysylltwch efo Porth Eirias ar unwaith.

Nid yw'r Porth Eirias na'r un sydd wedi anfon y neges yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirysau, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio unrhyw ymgysylltiadau. Mae'r Awdurdod yn monitro'r defnydd o e-bost/rhyngrwyd a chynnwys y rhain i ddibenion busnes. 

Ffônau  

Gellir recordio unrhyw alwadau ffôn i’r Porth Eirias i ddibenion hyfforddiant a monitro. 

Arolwg Ordnans

Rhoddir trwydded ddirymiadwy nad yw'n gyfyngedig, heb freindal, i chi weld y Data Trwyddedig ar gyfer defnydd anfasnachol yn unig, o'r cyfnod y bydd ar gael gan Porth Eirias;

  • Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu, gwerthu neu fel arall drefnu bod y Data Trwyddedig ar gael mewn unrhyw ffurf i drydydd partïon; a
  • Neilltuir hawliau trydydd parti  i orfodi telerau'r drwydded hon i'r Arolwg Ordnans.

Adborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch ei bod yn anghywir neu'n anaddas, rhowch wybod i ni drwy yrru e-bost at gwe.web@conwy.gov.uk

Newid 

Gall Porth Eirias newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r hysbysiad hwn.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content