top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577525
 
Title

Text
Cartref Gwybodaeth am COVID
start content

Gwybodaeth am COVID


Eich cadw’n ddiogel

Gorchuddion wyneb

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gisgo gorchudd wyneb tra byddwch yn ymweld â Phorth Eirias. Dim ond yn ein hardaloedd lletygarwch i fwyta ac yfed y cewch dynnu eich gorchudd wyneb.  Nid yw gorchuddion wyneb yn angenrheidiol os ydych o dan 12 oed neu wedi eich eithrio am resymau meddygol.

Hylif Diheintio Dwylo 

Mae unedau diheintio dwylo ym mhob pwynt mynediad.

Talu digyswllt 

Mae talu digyswllt ar gael ym mhob man talu.

Mwy o Lanhau 

Mae pob gofod cyhoeddus a phwyntiau cyffwrdd yn cael eu glanhau a’u diheintio’n drylwyr.  

Digwyddiadau

os ydych yn dod i ddigwyddiad wedi’i drefnu ymlaen llaw ym Mhorth Eirias, dilynwch y wybodaeth cyn-digwyddiad a gawsoch cyn dod i’r safle. 

Awyru

Lle bo’n bosib, bydd ffenestri’n cael eu hagor i gylchredeg yr aer. Mae’n prif system awyru wedi ei rhaglennu i sicrhau fod y mewnlif yn 100% o awyr iach.  Oherwydd hyn, efallai bydd y ganolfan ychydig yn oerach na’r arfer, felly rydym yn awgrymu eich bod yn dod â haen ychwanegol rhag ofn.

Diogelwch

Os oes gennych unrhyw un o symptomau coronafeirws neu’n teimlo’n sâl ar ddiwrnod eich ymweliad, peidiwch â dod i mewn i Borth Eirias os gwelwch yn dda.   Rydym yn eich cynghori’n daer i ddilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth ar hunan-ynysu.

Rydym hefyd yn gofyn am eich helpu i gadw ein staff a’n gilydd yn ddiogel, cymerwch eich amser, cadwch eich pellter lle bo’n bosib, ac yn bwysicach fyth os oes gennych unrhyw un o symptomau Covid-19, mae’n bwysig iawn nad ydych yn mynychu’r perfformiad / lleoliad.

Sylwer y gall y canllawiau hyn newid wrth i gyfnodau clo gael eu llacio neu eu gweithredu. Diweddarwyd ddiwethaf mis Awst 2021.



Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content